Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

9 Hydref 2017

SL(5)129 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae rheoliadau 3 i 15 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010. Er enghraifft, mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn diwygio gweithrediad ac aelodaeth Cyngor Llywodraethu'r Tribiwnlys Prisio.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005. Mae rheoliadau 17 a 18 yn darparu bod modd gwaredu apeliadau o dan y Rheoliadau hynny heb wrandawiad.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 25 Medi 2017

Fe’u gosodwyd ar: 27 Medi 2017

Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2017

SL(5)133 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae adran 39(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") yn darparu ym mha amgylchiadau y mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol pan wneir rhai penderfyniadau rheoleiddiol penodol mewn cysylltiad â chofrestru darparwr gwasanaeth.

Mae adran 39(1)(g) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ragnodi rhagor o amgylchiadau pan fydd y ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol yn gymwys.

Mae adran 39(2) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiadau o'r fath.

Mae rheoliad 3 yn nodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys ym mhob hysbysiad a wneir o dan adran 39(1). Mae rheoliad 4 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth. Mae rheoliad 5 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth trwy ddileu o'r cofrestriad wasanaeth rheoleiddiedig neu fan lle y mae'r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 6 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynglŷn â gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o'r Ddeddf (canslo neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan); Mae rheoliad 7 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 8 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch achosion sy'n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o'r Ddeddf neu reoliadau a wneir oddi tani. Mae rheoliad 9 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52 o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 10 yn nodi'r pethau eraill a ragnodir at ddibenion adran 39(1)(g) o'r Ddeddf. Gwneir darpariaeth ynghylch apeliadau a wneir gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â'r pethau a nodir yn adran 39(1)(a) i (d) a chanlyniad unrhyw apêl. Gwneir darpariaeth hefyd ynghylch canlyniad achosion sy'n cael eu dwyn gan Weinidogion Cymru am droseddau o dan Ran 1 o'r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf).

Deddf Wreiddiol: Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 27 Medi 2017

Fe’u gosodwyd ar: 3 Hydref 2017

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018

 

 

SL(5)131 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 6 ac 11 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae adran 6(1) o'r Ddeddf yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae adran 6(1)(d) o'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru. Mae rheoliadau 3 a 4 yn pennu'r wybodaeth ychwanegol sydd i'w darparu gan ymgeisydd mewn cais i gofrestru.

Mae Adran 6(2) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i'r cais i gofrestru fod ar y ffurf a ragnodir. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf cais.

Gan ddefnyddio pwerau o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae rheoliadau 6 i 9 yn pennu'r wybodaeth sydd i'w darparu mewn cais i amrywio cofrestriad.

Mae rheoliadau 10 ac 11 yn nodi'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen mewn cysylltiad â chais i amrywio cofrestriad. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf cais i amrywio.

Mae adran 11(2) o'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ragnodi, mewn rheoliadau, derfyn amser ar gyfer cyflwyno cais i amrywio cofrestriad darparwr o dan amgylchiadau pan na fo unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 13 yn rhagnodi mai 28 diwrnod yw'r terfyn amser hwnnw.

Deddf Wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Chwefror 2018

SL(5)132 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae adran 10(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru.  Mae adran 10(2) o'r Ddeddf yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y datganiad blynyddol. 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 10(2)(a)(vii), (viii) a (ix), (3) a (4) o'r Ddeddf, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi'r wybodaeth am hyfforddiant a chynllunio'r gweithlu a gwybodaeth arall y mae'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, i ragnodi ffurf y datganiad blynyddol ac i ragnodi'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion staff o ran hyfforddiant.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff.

Mae rheoliadau 5 a 6 a'r Atodlen yn ymdrin â gwybodaeth arall am y gwasanaeth a ddarperir ym mhob lleoliad, y mae'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad blynyddol, gan gynnwys gwybodaeth am staffio ac am ddarpariaeth gwasanaethau a'r wybodaeth benodol sy'n ofynnol pan fo'r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad blynyddol gynnwys datganiad o wirionedd gan y darparwr gwasanaeth a'r unigolyn cyfrifol. Bydd hwn yn darparu tystiolaeth o'r sawl sy'n gyfrifol am wneud datganiad yn y datganiad blynyddol os bydd erlyniad am drosedd o dan adran 47 o'r Ddeddf (datganiadau anwir).

Deddf Wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Tachwedd 2017

SL(5)134 – Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) ei gadw mewn bodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau'r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn yn rhoi rhagor o swyddogaethau i'r Cyngor neu yn gosod rhagor o swyddogaethau arno. 

Roedd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017  ("Gorchymyn 2017") yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i'r Cyngor, ym maes achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a thynnu achrediad o'r fath yn ôl ("Swyddogaeth Achredu").

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2017 er mwyn rhoi swyddogaeth arall i'r Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo roi sylw i ragolygon Gweinidogion Cymru o'r galw am athrawon newydd gymhwyso wrth arfer ei Swyddogaeth Achredu (erthygl 2).

Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’i gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Tachwedd 2017

 

 

 

 

 

SL(5)135 – Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014"). Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n ychwanegol at ddiwygiadau a wnaed yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Plant 1989 trwy ddatgymhwyso adran 25C(2) o ran Cymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 2(6)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 trwy hepgor y cyfeiriad at "section 6 of the Local Authority Social Services Act 1970" a rhoi yn ei le “section 144 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

Cyflwynodd Deddf Plant a Theuluoedd 2014 "orchymyn trefniadau plant", gan ddisodli gorchmynion preswylio a chyswllt. Mae rheoliad 4 yn diwygio Deddf 2014 trwy ddisodli cyfeiriadau yn adrannau 76 ac 81 at "orchymyn preswylio" â "gorchymyn trefniadau plentyn" i adlewyrchu'r newid hwn.

Deddf Wreiddiol: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 1 Rhagfyr 2017

SL(5)136 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i'w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ("y Ddeddf"). Mae Rhan 1 yn sefydlu'r Bwrdd Ystadegau sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu arferion da wrth gasglu ac asesu ystadegau swyddogol. Diffinnir "ystadegau swyddogol" yn adran 6(1) o'r Ddeddf ac mae'n cynnwys, yn is-adran (1)(b)(iii), ystadegau fel y'u pennir trwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 6(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o'r ystadegau a gynhyrchir neu'r person sy'n eu cynhyrchu.

Nid yw ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan bobl a restrir yn yr Atodlen yn cynnwys ystadegau a gynhyrchir gan y Bwrdd Ystadegau, adrannau'r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig nac unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y Goron.

Deddf Wreiddiol: Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’i gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2).